Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
12 Hydref 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(0 munud)
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021
(60 munud)
NDM8090 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar ei Ymchwiliad: Adolygiad o’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mehefin 2022.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Hydref 2022.
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai
(60 munud)
NDM8089 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai’, a osodwyd ar 15 Mehefin 2022.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Gorffennaf 2022.
7 Dadl Plaid Cymru - Y sector rhentu preifat
(60 munud)
NDM8091 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod rhenti cynyddol yn ychwanegu at bwysau ar aelwydydd ledled Cymru wrth i'r argyfwng costau byw waethygu ymhellach.
2. Yn nodi bod gwerthoedd rhent cyfartalog Cymru wedi cynyddu i £926 y mis ym mis Mehefin 2022, sef cynnydd 15.1 y cant o'i gymharu â Mehefin 2021.
3. Yn nodi'r niferoedd cynyddol ar restrau aros am dai cymdeithasol, a diffyg stoc tai cymdeithasol.
4. Yn nodi bod diffyg darpariaeth o dai priodol a bod pobl yn wynebu digartrefedd pan fyddant yn cael eu troi allan.
5. Yn credu bod yn rhaid gwarchod tenantiaid ar frys y gaeaf hwn.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau brys i:
a) rhewi rhenti yn y sector rhentu preifat;
b) gosod moratoriwm ar droi pobl allan.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu bod Llywodraeth y DU yn methu â deall ei chyfrifoldebau ynghylch mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, ac yn galw ar i Lywodraeth y DU lynu wrth ei hymrwymiad i godi budd-daliadau yn unol â chwyddiant, gan gynnwys cynyddu cyfraddau’r lwfans tai lleol yng Nghymru.
Yn cydnabod:
a) bod tenantiaid cymdeithasol yn cael eu diogelu rhag codiadau rhent y gaeaf hwn;
b) o 1 Rhagfyr bydd y Ddeddf Rhentu Cartrefi yn cynnig rhagor o amddiffyniad i denantiaid rhag cael eu troi allan;
c) bod mwy na 25,000 o bobl sydd wedi cael eu hunain yn ddigartref wedi cael eu helpu i gael llety dros dro ers dechrau’r pandemig.
Yn croesawu:
a) y £6 miliwn ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol y gellir ei ddefnyddio i helpu i dalu ôl-ddyledion rhent neu i ddarparu gwarant rent;
b) y buddsoddiad o £65 miliwn mewn rhaglen gyfalaf ar gyfer llety trosiannol i gynyddu nifer y tai cymdeithasol, gan sicrhau bod gan ragor o bobl le y gellir ei alw’n gartref.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:
Yn nodi'r symiau cynyddol y mae awdurdodau lleol yn eu gwario ar lety dros dro.
Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r nifer cynyddol o hysbysiadau troi allan adran 21 sy'n cael eu cyflwyno gan landlordiaid preifat.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gydag awdurdodau lleol i wella'r broses o hyrwyddo'r cynllun benthyciadau cartref gwag er mwyn dychwelyd rhagor o dai gwag i fod yn gartrefi;
b) adolygu a chyflymu'r broses o wneud cais cynllunio er mwyn galluogi datblygwyr i gyrraedd targedau adeiladu tai;
c) adolygu pa gamau y gellir eu cymryd i drosi lleoedd gwag uwchben unedau manwerthu i fod yn dai fforddiadwy, wedi'u lleoli'n ganolog.
8 Cyfnod Pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8092 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Lwfans cynhaliaeth addysg: rhaff achub yn yr argyfwng presennol
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 18 Hydref 2022